Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Ionawr 2023
Amser:
09.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13182
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 3: Y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
Dean Medcraft, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o’r ymyriadau a wnaed fel rhan o’r cynllun peilot ail gartrefi, pan fydd ar gael.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a'r Pwyllgor Busnes - Memoranda cydsyniad deddfwriaethol
3.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth yn ymwneud â memoranda cydsyniad deddfwriaethol.
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd - y ddiweddaraf ar weithredu argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Eiddo Gwag
3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymwneud â gweithredu argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Eiddo Gwag.
3.3 Llythyr ar y cyd gan Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24
3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Cymorth Cymru a Thai Cymunedol Cymru at y Gweinidog Cyllid yn ymwneud â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o gyfarfod nesaf y Pwyllgor
4.1. Derbyniodd y Pwyllgor gynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 31 Ionawr 2023.
5 Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2
5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
6 Trafod yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
6.1. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
7 Y wybodaeth ddiweddaraf am y flaenraglen waith
7.1. Cytunodd y Pwyllgor ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymhorau’r gwanwyn a’r haf 2023.
8 Y wybodaeth ddiweddaraf am waith yn ymwneud ag eiddo gwag
8.1. Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am waith yn ymwneud ag eiddo gwag.
9 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin
9.1. Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin.